• FFYNNON Y SANTES FFRAID

    ( SN675671)

    1. Meurig Jones

    Saif y ffynnon ar dir fferm Cynhawdref Uchaf (hen gartref Ieuan Fardd 1731-1788) ger pentref Swyddffynnon (Ffynnon-oer y gelwid y lle yn yr hen amser) ym mhlwyf Lledrod uchaf, ym maenor Mefennydd, Ceredigion.

    Cysegrwyd y ffynnon i Ffraid oherwydd bod y santes yn gysylltiedig ag Urdd y Sistersiaid, sef perchnogion y tir yn yr Oesoedd Canol. Santes Wyddelig oedd Ffraid ac roedd y Sistersiaid yn berchen ar dir sylweddol yn Iwerddon a Chymru. Roedd gan yr ardal i’r de-orllewin o’r afon Ystwyth hen gysylltiad â ‘r Demetae llwyth Gwyddelig Celtaidd – ac yno goroesodd yr iaith Wyddeleg tan yr unfed ganrif ar ddeg. Gwelwn dystiolaeth o hyn ar garreg goffa o’r nawfed ganrif yn eglwys Gwnnws, Llanwnnws:

    QUINCUNQUE EXPLICAVERIT HOC NOMEN DET BENEDIXIONEM PRO ANIMA HIROIDL FILIUS CAROTINN

    (Pwy bynnag sy’n medru egluro’r enwau yma roddent weddi dros enaid Hiroedl mab Carodyn(?)

    Mae cysylltiad rhwng y santes a’r ddiod feddwol oherwydd bod yna ddywediad am ‘Gwrw Sant Ffraid’. Cyfeirir ato yn Llyfr Coch Llanelwy:

    ‘Quaedam consuetudo vocata corw Sanfrait ‘.

    Yn ôl traddodiad pan oedd Ffraid yn ifanc, ei dyletswydd hi oedd godro’r gwartheg a gwneud ymenyn yn yr hafod, sef preswylfa’r haf i drigolion ardaloedd mynyddig Cymru. Diddorol yw sylwi felly, mai ar dir fferm Cynhawdref (Cynhafdref yn gywir) y mae Ffynnon Ffraid. Roedd lleiandy i ‘r Santes Ffraid rhwng pentrefi Llanrhystud a Llansanffraid ar yr arfordir yn ôl Lives of the British Saints gan Baring-Gould a Fisher. Yn anffodus collwyd unrhyw draddodiadau gwerin a fu unwaith yn gysylltiedig â’r ffynnon, ond gwyddom ei bod yn hen iawn am fod cyfeiriad ati yn y gyfrol Map of South West Wales and the Border in the Fourteenth Century gan W Rees. Er i’r traddodiadau llafar gael eu colli ni ellir peidio â rhyfeddu at bensaernïaeth y ffynnon. Mae ar ffurf cwch gwenyn, ffurf brin yng Nghymru , unigryw yn y de-orllewin . Dylai gael ei diogelu pe bai ond am hynny yn unig. Bu llwyn yn tyfu drwy gerrig y ffynnon am flynyddoedd ac roedd ei wreiddiau yn dal y cerrig yn eu lle, ond gwywodd y llwyn a bellach mae’r cerrig yn symud a’r dirywiad i’w weld yn waeth ar ôl tywydd oer iawn yn y gaeaf.

     

    YR YMGYRCH I ACHUB FFYNNON FFRAID

    Ers pedair blynedd bellach mae Anwen Davies, a’i mam Jasmine Jones, perchnogion Cynhawdref Uchaf ac Isaf wedi ymdrechu i achub y ffynnon rhag dadfeilio. Dyma fanylion yr ymgyrch fel y’i cafwyd gan Anwen:

    Ebrill 9ed 1992 – Ffonio A.J. Parkinson, Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru.

    Ebrill15ed            Ateb yn ôl gan Mr. Parkinson yn ein cynghori i ysgrifennu at CADW. Dangoswyd tipyn o ddiddordeb yn y siâp cwch gwenyn. Daeth CADW allan i gofnodi’r ffynnon, tynnu lluniau a rhoi cyfeirnod map. Dyma ddisgrifiad dynion y Comisiwn o’r ffynnon:

    Ffynnon wedi ei hadeiladu o gerrig sychion yng nghornel o’r orglawdd yng ngardd Cynhawdref Uchaf tua 14m i’r de o’r ffermdy. Mae’r ffynnon bron yn sgwâr o ran cynllun. Mae’r ochr sy’n wynebu’r dwyrain yn codi i 2.15m o led a saif 2.3m o daldra. Mae’n blaenfeino i’r pen ac yn edrych fel siâp pyramid ond heb fod yn bigfain. Mae’r agoriad i’r ffynnon yn 660mm o led a 740 mm o uchder ac mae’r siambr lle mae’r dŵr ar ffurf pedol. Mae lefel y dŵr ynddi yn gyson, sef tua 100mm o dan y garreg yn y fynedfa. Mae hanes lleol yn cofnodi fod y mynachod yn defnyddio’r ffynnon wrth deithio o Ystrad Fflur, tua 7km i’r dwyrain, ac mai dyma pam y defnyddir y term ‘sanctaidd’ i ddisgrifio’r ffynnon. Ond nid yw Cynhawdref ar unrhyw lwybr dwyrain i’r gorllewin. Yn llyfr Frandis Jones, The Holy Wells of Wales, nid oes sôn am y ffynnon yma yn Cynhawdref ond mewn man arall yn ymyl Swyddffynnon.